Prosiect Waen

EIN CYNLLUNIAU I DDATBLYGU SAFLE TREULIO ANAEROBIG YN WAEN

Ym mis Awst 2011 cafodd cwmni technoleg gwastraff organig TEG Environmental a'r cwmni ynni Alkane Energy eu henwi yn gynigydd a ffefrir gyfer prosiect i ddatblygu safle treulio anaerobig ar safle'r hen ladd-dy yn Waen, Llanelwy, Sir Ddinbych.

Bwriadwn roi gwybodaeth lawn am ein cynlluniau i breswylwyr lleol. Rhoddwyd cyflwyniad yng Nghyngor Cymuned Tremeirchion Cwm Waen ddydd Mercher 28 Medi 2011. Ar ddydd Gwener 14 Hydref a dydd Sadwrn 15 Hydref 2011 trefnwyd sesiwn 'Galw Heibio' yn Neuadd Plwyf Waen i alluogi preswylwyr lleol i gwrdd a chynrychiolwyr o TEG a gweld y cynlluniau cyfnod cynnar ar gyfer y safle.

Roeddem yn falch i gwrdd a'r rhai a dderbyniodd ein gwahoddiad a rydym wedi nodi'r sylwadau a godwyd.

Rydym yn awr yn cwblhau ein cais cynllunio a byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ar yr adran yma o'r wefan cyn gynted ag y bydd unrhyw newyddion pellach.

Yr amserlen bresennol ar gyfer y prosiect yw:

Cyflwyno ceisiadau Cynllunio a Thrwydded erbyn Rhagfyr 2011

Sicrhau cynlluniau/caniatad erbyn Ebrill 2012

Gwaith adeiladu'n dechrau ym Mai 2012

Cwblhau gwaith adeiladu erbyn Mawrth 2013

Y safle'n cynhyrchu holl wastraff bwyd y Cynghorau erbyn Medi 2013

Latest News

Headlines

  • Statement regarding share price movement: more »
  • TEG ac Alkane yn Gynigydd a Ffafrir safle cyntaf rhaglen Llywodraeth Cymru ar gyfer treulio anaerobig ar wastraff bwyd:  31 Awst 2010 more »
Latest Share Price
Share Price Graph