TEG yng Nghymru

Mae gan TEG hanes o lwyddiant yng Nghymru, ac wedi adeiladu dau safle IVC amgaeedig ar gyfer awdurdodau lleol. Yn 2006 Dinas a Sir Abertawe oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i gyflwyno technoleg amgen TEG ar gyfer trin gwastraff bwyd a gwyrdd ac yn 2008 Cyngor Gwynedd oedd yr awdurdod cyntaf yng Ngogledd Cymru i gyflwyno'r dechnoleg.

Bu gan y ddau safle TEG rol allweddol wrth gyflawni targedau statudol dargyfeirio biowastraff Aelod Wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd, yn ogystal ag osgoi codi dirwyon sylweddol ar Gymru am ddiffyg cydymffurfiaeth. Mae awdurdodau lleol eraill yng Ngogledd a De Cymru hefyd wedi defnyddio cyfleusterau IVC TEC ar gyfer datrysiadau trin biowastraff sy'n ateb y gofynion interim.

Gall TEG yn awr ymestyn ei gynnig i gynnwys dewis o dechnolegau AD neu IVC neu dechnolegau wedi'u cyd-leoli gan ddefnyddio gwastraff a droswyd yn wellhawyr pridd ar gyfer dibenion amaethyddol, garddwriaethol neu adfer tir drwy IVC neu i fio-nwy a gwrtaith hylif drwy AD.

Fel canlyniad i'r gwaith ar ailgylchu a chompostio, mae Cymru yn rhagori ar ei thargedau i ostwng faint o wastraff bwrdeisiol pydradwy aiff i domen lanw. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn parhau i hyrwyddo ailgylchu, compostio a threulio anerobig fel y dull allweddol i gyflawni targedau Cyfarwyddeb Tomennydd Llanw nesaf yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer gwastraff bwrdeisiol pydradwy a osodwyd ar gyfer 2012-13.  Yn ogystal a darparu cyllid ychwanegol ar gyfer casglu gwastraff bwyd, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cytuno ar becyn cyllid o £26 miliwn i gefnogi caffaeliad a datblygu rhwydwaith o gyfleusterau treulio anerobig i droi gwastraff bwyd yn ynni adnewyddadwy a gwrtaith gwerthfawr.

Mae TEG yn awr yn datblygu safleoedd IVC ac AD yng Nghymru. Yn Ne Cymru rydym eisoes wedi llofnodi Penawdau Telerau Cytuno ar ddatblygu datrysiad AD/IVC wedi'i gydleoli yn Stormy Down ger Pen-y-bont ar Ogwr lle mae'r cwmni lleol gwobrwyol Cenin eisoes wedi derbyn caniatad cynllunio ar gyfer safle AD a weithredir gan Anagest, chwaer gwmni Cenin.

Cliciwch yma i weld datganiad i'r wasg a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

Tra bod galluedd Cymru mewn AD a IVC yn cael ei ddatblygu, gall TEC ddarparu datrysiadau tymor byr drwy ei safleoedd presennol, gyda nifer ohonynt o fewn amser teithio realistig ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru.

Latest News

Headlines

  • Notice of results for the year ended 31 December 2009: 4th March 2010 more »
  • TEG Attends Welsh Waste Conference: 7th January 2010. more »
Latest Share Price
Share Price Graph