15 Hydref 2009

De Cymru i osod y safon ar gyfer triniaeth gwastraff organig yn y Deyrnas Unedig

Mae entrepreneur o Gymru wedi selio cytundeb a fedrai arwain at ddatblygu un o gyfleusterau trin gwastraff organig mwyaf datblygedig Prydain yn Stormy Down ger Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae Martyn Popham, Rheolwr Gyfarwyddwr Anagest, sy'n defnyddio treulio anerobig (AD) i greu ynni o wastraff, wedi llofnodi cytundeb gyda'r darparydd datrysiadau gwastraff organig TEG i ddatblygu cyfleusterau AD a chompostio mewn llestr (IVC) wedi'i gyd-leoli ar y safle.

Mae Anagest yn rhan o Grwp Cenin, cyfleuster gwobrwyol i gynhyrchu amgen i sment, a gefnogir gan raglen Banc Gwybodaeth ar gyfer Busnes Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Yn amodol ar gyllid a chaniatad cynllunio a chymeradwyaeth Bwrdd y ddau gwmni, mae gan Anagest a TEG gynlluniau i ddatblygu'r safle i fod yn un o'r cyfleusterau trin gwastraff organig mwyaf datblygedig ym Mhrydain. Bydd y cyfleuster AD yn prosesu gwastraff bwyd ynghyd a chnydau ynni a dyfir ar dir cyfagos fel porthiant ar gyfer y gwaith AD. Bydd gallu IVC yn yr un lleoliad, yn defnyddio technoleg IVC TEG, yn sicrhau fod y cyfleuster yn cynnig dargyfeiriad cost-effeithiol o domennydd llanw  ar gyfer deunyddiau, megis bagiau bio a gwastraff gwyrdd, sy'n llai addas fel porthiant AD. Cyflenwir y dechnoleg AD gan UTS Biogas, arbenigwyr AD o'r Almaen sydd wedi adeiladu mwy na 80 o gyfleusterau AD ledled Ewrop.  Bydd TEG yn adeiladu'r cyfleusterau derbyn gwastraff ac yn gyfrifol am gyflenwi'r prosiect yn ogystal a sicrhau  pob contract cyflenwi gwastraff. Os yw pob caniatad yn mynd rhagddo fel y disgwyl, dylai'r gwaith ddechrau ar y safle yn gynnar y flwyddyn nesaf.

Ar gyfer Anagest, mae'r cydweithio yn golygu fod gan y cwmni yn awr bartner rheoli gwastraff a all droi cynlluniau blaengar yn realaeth. "Rydym yn falch iawn i ymrwymo i'r cytundeb hwn gyda TEG a bu'r gefnogaeth a gawsom gan Lywodraeth y Cynulliad yn help mawr iawn wrth ein helpu i gyrraedd y cam hwn o'r datblygiad," meddai Martyn Popham, Rheolwr Gyfarwyddwyr Anagest a Cenin. "Bydd datblygu AD i brosesu gwastraff  bwyd a chnydau ynni yn rhoi'r gwres a'r pwer mae ein chwaer gwmni Cenin ei angen ac mae'n gam sylweddol tuag at gyflenwi'r cyfleuster cynhyrchu amgen sment Dim CO2."

Esboniodd Jayne Pierre, Cyfarwyddwr Masnachol TEG, arwyddocad lleoliad y safle. "Mae'r lleoliad daearyddol, ar goridor yr M4, yn rhoi mynediad rhwydd i ffrydiau gwastraff ac yn helpu i gadw effaith amgylcheddol casglu gwastraff yn isel. Mae'r safle yn agos at  dir ffarm helaeth lle defnyddir compost a chynnyrch treulio i dyfu cnydau ynni, fel bod effaith carbon rheoli cynnyrch hefyd yn isel iawn. Yn ogystal a chynhyrchu pwer, mae gan y safle hefyd gyfleuster cynhyrchu amgen sment carbon isel a all ddefnyddio gwres a gynhyrchir o'r safle AD, gan sicrhau y caiff y gwerth uchaf posibl ei adfer o'r gwastraff. Mae'r cydweithredu integredig hwn rhwng TEG, Anagest a Cenin yn rhoi patrwm o safle yn Ewrop, a fydd yn dangos yn ymarferol sut y medrir cysylltu holl gynlluniau amgylcheddol Llywodraeth y Cynulliad er budd pawb.

"Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous iawn i TEG, fydd yn ein galluogi i gynnig datrysiad gwastraff organig gwerth am arian gyda'r effaith carbon isaf posibl i Gynghorau a chynhyrchwyr gwastraff eraill yn Ne Cymru. Mae'r cyfleuster yn symud triniaeth gwastraff organig i lefelau newydd ym Mhrydain ac rydym yn falch iawn i fod yn arwain mewn datblygiad mor bwysig," ychwanegodd.

Diwedd

Gwybodaeth bellach gan:

Ann Gronback
Cysylltiadau Cyhoeddus Solus
Ffon: 01565 755713 / Symudol 07768 885468
E-bost: ann@soluspr.co.uk

Nodiadau i?r Golygydd

Anagest-Cenin
Mae Anagest yn rhan o Grwp Cenin sydd wedi arloesi gweithgynhyrchu carbon isel gyda'i brosesau amnewid sment. Mae Anagest yn defnyddio treulio anerobig i greu ynni adnewyddadwy. Caiff Anagest ei reoli o ddydd i ddydd gan fusnes ffermio teuluol a enillodd wobr amgylcheddol a weithredir gan Richard a Lyn Anthony. Bydd Richard yn rheoli'r cynnyrch treulio fel rhan o fenter ffermio a bydd Lyn yn rheoli prosesau biolegol y safle AD.

Banc Gwybodaeth ar gyfer Busnes
Mae rhaglen Banc Gwybodaeth ar gyfer Busnes Llywodraeth y Cynulliad yn darparu cefnogaeth agos, blaenoriaeth i tua 100 o'r busnesau gyda'r potensial twf uchaf yng Nghymru sydd eisoes wedi sefydlu sylfeini cadarn.

TEG
Mae TEG yn darparu technoleg compostio mewn-llestr, sy'n un o'r ychydig o dechnolegau cymeradwy a all drin gwastraff isgynnyrch anifeiliaid, ac mae'n awr yn darparu technoleg treulio anerobig i gynhyrchu ynni o wastraff bwyd. Caiff economeg y safle eu gyrru'n bennaf gan y ffioedd clwyd a godir, yn hytrach na gwerth y cynnyrch yn y diwedd (porthiant). Mae'r safleoedd AD hefyd yn manteisio o werthu pwer a gwres a gynhyrchir ac o Dystysgrifau Oblygiadau Adnewyddadwy ("ROCS"). Mae TEG yn berchen ei dechnoleg compostio ac mae ganddo gytundeb gyda UTS Biogastechnik GmbH ("UTS") ar gyfer darparu technoleg AD i farchnadoedd gwastraff Prydain. Mae prosesau TEG yn amgen economaidd i domen lanw.

Mae cwsmeriaid yn cynnwys awdurdodau lleol, cwmniau rheoli gwastraff, ffermwyr a pherchnogion tir. Caiff marchnad gynyddol y Cwmni ei hybu gan ddeddfwriaeth cynyddol gaeth gan yr Undeb Ewropeaidd a'r Deyrnas Unedig am drin a gwaredu a gwastraff organig.  Mae targedau statudol ar gyfer dargyfeirio gwastraff o domennydd llanw yn cynyddu'n flynyddol hyd at 2020, gan gynyddu cyfle marchnad TEG flwyddyn ar flwyddyn. Mae Rhaglen Weithredu Adnoddau Gwastraff yn amcangyfrif y bydd angen 450 o safleoedd compostio erbyn 2020 i fodloni gofynion awdurdodau lleol yn unig, ac mae galw cynyddol gan y sector preifat.

System Cawell Seilo TEG
Mae'r System Cawell Seilo, un o?r ychydig dechnolegau yn Ewrop a all drin y gwastraff hwn, yn broses naturiol yn cynhyrchu compost fel cynnyrch yn y diwedd. Mae'r compost yn gyflyrydd pridd ardderchog sy'n gwrteithio, cadw gwlybaniaeth, rhoi strwythur a gostwng amledd afiechydon planhigion. Lleolir Cewyll Seilo TG mewn adeiladau hunangynwysedig, nid ydynt yn ddiolwg ac maent yn gyfeillgar i'r amgylchedd.

UTS
Ar ol cyflenwi offer i fwy na 1,500 o safleoedd bio-nwy, mae UTS Biogastechnik GmbH yn un o brif gwmniau bio-nwy y byd. Mae grwp cwmniau UTS yn cynnig gwasanaethau i gynllunio, adeiladu, cyflenwi a gosod safleoedd bio-nwy a'u helfennau allweddol. Mae gan y cwmni ei gyfleusterau cynhyrchu a siopau gwasanaeth, adrannau dylunio technegol a datblygu ei hun yn ogystal a thechnegwyr gwasanaeth cwsmeriaid mecanyddol a biolegol i gefnogi ei sylfaen cleientiaid rhyngwladol. Mae UTS hefyd yn datblygu ac yn gwerthu cymysgwyr arbenigol, pympiau ac amrywiaeth o ddyfeisiau gwahanu solidau/hylif yn gysylltiedig a'r marchnadoedd bio-nwy ac amaeth/bwyd. Mae pencadlys y cwmni ger Munich,  yr Almaen, gydag is-gwmniau yn yr Eidal, Hwngari, Sbaen, Gweriniaeth Siec ac yn awr datblygwyd cwmni sy'n datblygu'n gyflym sef UTS Biogas cyfyngedig i wasanaethu marchnadoedd y Deyrnas Unedig ac Iwerddon.

Latest News

Headlines

  • Notice of results for the year ended 31 December 2009: 4th March 2010 more »
  • TEG Attends Welsh Waste Conference: 7th January 2010. more »
Latest Share Price
Share Price Graph