6 Ionawr
TEG yn llofnodi cytundeb cydweithio gyda Alkane
Mae TEG Group Ccc, sy?n arbenigo mewn adeiladu a
gweithredu safleoedd compostio ac ynni, wedi cyhoeddi cytundeb cydweithio gyda
Alkane Energy Ccc, y cwmni ynni ?nwy i b?er? i gydweithio i ddatblygu
cyfleusterau treulio anerobig yn y Deyrnas Unedig.
Bydd y bartneriaeth yn creu cynnig marchnad grymus, gan ddod ynghyd ā phrofiad TEG mewn trin gwastraff organig a phrofiad Alkane yn y sector ynni a?i allu i sicrhau prisiau trydan, Tystysgrifau Oblygiad Adnewyddadwy a gwerthiant gwres. Bydd hefyd yn cynnig cyfleoedd deniadol i gynyddu gostwng ōl-troed carbon, gan gynnig technoleg treulio anerobig datblygiedig ynghyd ā llwybr cost-effeithiol ar gyfer ynni o wastraff.
Mae?r ddau gwmni?n bwriadu cynnig ar gyfer contractau gydag awdurdodau lleol a chwsmeriaid gwastraff eraill a buddsoddi ar y cyd pan ddatblygir cyfleusterau. Bydd TEG yn arwain y cynigion a sicrhau contractau gydag Awdurdodau Lleol a chwsmeriaid gwastraff eraill. Bydd TEG hefyd yn ariannu, adeiladu a gweithredu?r safleoedd rheoli a threulio gwastraff ac yn cynhyrchu methan i gael ei drin gan Alkane. Bydd Alkane yn ariannu, adeiladu a gweithredu?r safleoedd ynni, yn cynnwys safleodd injan a thrin nwy a chysylltiadau grid.
Mae?r ddau gwmni eisoes wedi cyflwyno cynigion ar y cyd ar gyfer y cylch presennol o dendrau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer cyfleusterau treulio anerobig. Maent hefyd yn datblygu prosiectau eraill gyda?i giydd, lle cafwyd caniatād cynllunio gyda?r nod o symud i?r cam adeiladu cyn gynted ag sydd modd.
Wrth siarad ar ran TEG, dywedodd y Prif Weithredwr Mick Fishwick: "Rydym yn hynod falch i fod wedi ymrwymo i?r cytundeb hwn gyda Alkane. Mae sgiliau ac arbenigedd TEG yn y sector gwastraff organig yn cydfynd yn berffaith gyda sgiliau Alkane yn y sector methan ac ynni. Gyda?r cydweithio a gyhoeddwyd yn gynharach eleni gyda UTS ar gyfer cyflenwi technoleg, credaf fod y bartneriaeth yma mewn safle delfrydol i gymryd y blaen yn y sector treulio anerobig newydd.
