Newyddion Cymru

Bu tîm o TEG yng Nghnhadledd Genedlaethol Rheolaeth Gwastraff Cymru yn Neuadd y Sir, Glanfa?r Iwerydd, Bae Caerdydd. Dangosodd TEG sut mae?n cydweithio gyda UTS, Alkane a?i chwaer gwmni NOFO i ddarparu datrysiadau gwastraff organig ledled y Deyrnas Unedig.

  

Lawrlwythwch ein llyfryn diweddaraf i gael mwy o wybodaeth

 

Llyfryn Cydweithio Chwefror 2010 (Cymraeg) - Cliciwch Yma i Lawrlwytho PDF

  

Yn Ne Cymru, mae TEG yn gweithio gyda Anagest, is-gwmni Cenin, yn ogystal ag UTS ac Alkane i ddatblygu safle yn Stormy Down. Bydd hyn yn dod i ffrwyth a chydweithio llwyddiannus iawn rhwng cwmnïau blaengar sy?n benderfynol i ddarparu un o gyfleusterau triniaeth gwastraff organig mwyaf datblygedig y Deyrnas Unedig.

 

Mae Stormy Down yn safle naw erw sy?n ffurfio rhan o hen faes awyr Stormy Down ger Pen-y-bont ar Ogwr. Mae ei leoliad daearyddol delfrydol ar goridor yr M4 yn rhoi mynediad rhwydd i ffrydiau gwastraff ac yn helpu i gadw effaith amgylcheddol casglu gwastraff yn isel iawn. Mae?r safle yn agos at dir amaethyddol helaeth lle defnyddir compost a chynnyrch treuliant i dyfu cnydau ynni, felly bydd effaith carbon rheolaeth cynnyrch hefyd yn fychan.

Latest News

Headlines

  • TEG Announces First AD Plant.:   26th July 2010 more »
  • TEG Concludes Contract for Food Waste with May Gurney:   21 June 2010 more »
Latest Share Price
Share Price Graph