News

TEG ac Alkane yn Gynigydd a Ffafrir safle cyntaf rhaglen Llywodraeth Cymru ar gyfer treulio anaerobig ar wastraff bwyd

 31 Awst 2010

TEG ac Alkane yn Gynigydd a Ffafrir safle cyntaf rhaglen Llywodraeth Cymru ar gyfer treulio anaerobig ar wastraff bwyd 

Dyfarnwyd statws cynigydd a ffafrir i'r arbenigwyr gwastraff organig TEG Environmental a'r cwmni ynni Alkane Energy ar gyfer y safle treulio anaerobig cyntaf i'w greu dan raglen Llywodraeth Cymru ar gyfer awdurdodau lleol i ailgylchu gwastraff bwyd yn drydan a gwrtaith.

Mae'r dyfarniad yn golygu y bydd consortiwm TEG yn adeiladu safle £7.5m i ddarparu gwasanaeth ailgylchu i dri chyngor, a elwir yn Ganolbwynt Gogledd Ddwyrain Cymru. Gogledd Ddwyrain Cymru yw'r cyntaf o saith canolbwynt yng Nghymru i gwblhau eu chwiliad i ddynodi partner i adeiladu safle treulio anaerobig ar gyfer trin gwastraff bwyd o gartrefi. Mae Canolbwynt Gogledd Ddwyrain Cymru yn cynnwys Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Bydd Llywodraeth Cymru yn cyfrannu £1.4m at gyfanswm cost y prosiect.

Y safle arfaethedig yw lleoliad lladd-dy sydd bellach ar gau yn Rhuallt, ger Llanelwy. Bydd gan y safle'r gallu i brosesu 20,000 tunnell o wastraff bwyd bob blwyddyn, gydag o leiaf 11,000 tunnell y flwyddyn yn dod o'r tri awdurdod lleol yn y Canolbwynt. Daw gweddill y gwastraff o awdurdodau lleol eraill a busnesau sy'n cynhyrchu gwastraff bwyd. Disgwylir cyflwyno ceisiadau am ganiatad Cynllunio ac Amgylcheddol yn yr hydref ac os ydynt yn llwyddiannus, bydd y gwaith adeiladu yn dechrau yng ngwanwyn 2012 gyda'r safle'n dod yn weithredol y flwyddyn ddilynol.

Disgwylir i'r safle gynhyrchu bron 1MW o bwer adnewyddadwy, fyddai'n ddigon ar gyfer tua 2,000 o gartrefi yn ogystal a rhoi'r holl ofynion i redeg y safle ei hunan. Bydd y safle hefyd yn darparu tua 19,000 tunnell o wrtaith organig, sy'n ddigon i gyflawni gofynion maeth cnydau'n tyfu ar 1,000 ha o dir ac  fe'i defnyddir fel gwrtaith cost isel ar ffermydd lleol.

Bydd TEG ac Alkane yn ffurfio cwmni menter ar y cyd ar gyfer y prosiect, a elwir yn NEAT Biogas Cyfyngedig, gyda TEG yn berchen 70% o'r cwmni ac Alkane yn berchen ar 30%. Bydd NEAT yn ariannu a gweithredu'r safle, y disgwylir iddo ddod a refeniw o tua £2m y flwyddyn ystod tymor y contract o 15 mlynedd.

Bydd TEG ac Alkane yn cyflenwi'r holl offer a chyfarpar i NEAT Biogas, fydd yn gweithredu ac yn cynnal y safle. Bydd NOFCO ('Natural Organig Fertiliser Company'), sy'n is-gwmni i Grwp TEG, yn rheoli dosbarthu'r gwrtaith dan is-gontract ar wahan.

Dywedodd Mick Fishwick, Prif Weithredwr TEG: "Rydym yn falch iawn i fod wedi ennill y contract hirdymor pwysig yma gan Ganolbwynt Gogledd Ddwyrain Cymru ac edrychwn ymlaen at weithio gyda'r Canolbwynt ac adeiladu ein safle treulio anaerobig cyntaf yng Nghymru. Mae'n hefyd yn dda iawn gweld ein partneriaeth gyda Alkane yn dod i ffrwyth ac edrychwn ymlaen at weithio gyda Alkane yn ein cwmni menter ar y cyd newydd."

Dywedodd y Cynghorydd Sharon Frobisher, Aelod Arweiniol Cyngor Sir Ddinbych "Rydym yn falch iawn i wneud y cyhoeddiad yma. Mae'r safle yn ddarn hanfodol o'r jig-so i'n galluogi i ailgylchu hyd yn oed fwy o wastraff bwyd o'n cartrefi. Bydd y safle treulio anerobig newydd yn dda i'r amgylchedd, oherwydd y bydd yn cynhyrchu trydan o'r gwastraff bwyd y mae pobl wedi'i daflu."

Dywedodd Neil O'Brien, Prif Weithredwr Alkane: "Rydym yn hynod falch i fod yn Gynigydd a Ffafrir ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru. Mae'r math yma o weithrediad yn ateb cydnabyddedig i amcanion Llywodraeth y Deyrnas Unedig wrth gydymffurfio gyda thargedau tomennydd llanw'r Undeb Ewropeaidd a digarboneiddio marchnad drydan y DU. Bydd y trydan a gynhyrchir yn manteisio o brisiau gwerthu premiwm drwy Dariffiau'r Cynllun Cyflenwi. Mae'r symud yma i dreulio anerobig yn ehangu gweithrediadau busnes Alkane ymhellach ac yn cryfhau ein henw da ym maes technoleg lan. Mae'r cydweithredu rhwng Alkane/TEG yn profi ei werth gan gyfuno ein treftadaeth mewn rheoli gwastraff a chynhyrchu ynni. Mae cyfatebiaeth gref o sgiliau yn y ddau dim ac rydym yn parhau i weithio ar nifer o brosiectau eraill treulio anaerobig."

Diwedd

Gwybodaeth bellach gan:
Ann Gronback
Solus Public Relations
Ffon: 01565 755713 / Symudol 07768 885468

« Back

Latest News

Headlines

  • Statement regarding share price movement: more »
  • TEG ac Alkane yn Gynigydd a Ffafrir safle cyntaf rhaglen Llywodraeth Cymru ar gyfer treulio anaerobig ar wastraff bwyd:  31 Awst 2010 more »
Latest Share Price
Share Price Graph