News

Penodi Consortiwm Teg Yn Gynigydd A Ffafrir Ar Gyfer Safle Treulio Anaerobig Newydd Yng Ngogledd Ddwyrain Cymru

31 Awst 2011

GRWP TEG CCC (TEG/L)
("TEG" neu "y Cwmni")

PENODI CONSORTIWM TEG YN GYNIGYDD A FFAFRIR AR GYFER 
SAFLE TREULIO ANAEROBIG NEWYDD YNG NGOGLEDD DDWYRAIN CYMRU

CONTRACT AWDURDOD LLEOL HIRDYMOR NEWYDD

Mae Grwp TEG Ccc ("TEG"), y cwmni technoleg werdd arloesol sy'n datblygu ac yn gweithredu safleoedd compostio organig ac ynni, yn falch i gyhoeddi y penodwyd ei gonsortiwm gyda Alkane Energy CCC ("Alkane") yn gynigydd a ffafrir ar gyfer contract gwastraff bwyd hirdymor. Mae'r cleient yn gonsortiwm o dri Chyngor, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Bwrdeisdref Sirol Conwy a Chyngor Sir y Fflint, a adnabyddir fel Canolbwynt Gogledd Ddwyrain Cymru ("Canolbwynt y Cyngor"). Y contract yma yw'r cyntaf o brosiectau gwastraff organig a noddir gan Lywodraeth Cymru.

Bydd TEG ac Alkane yn creu cwmni cyd-fenter, a elwir yn NEAT Biogas Limited ("NEAT") gyda TEG yn dal 70% o'r ecwiti ac Alkane yn dal 30%. Dan y contract, mae NEAT yn bwriadu adeiladu a gweithredu safle treulio anaerobig newydd i brosesu 20,000 tunnell y flwyddyn o wastraff bwyd a gyflenwir gan Ganolbwynt y Cyngor ynghyd a gwastraff bwyd ychwanegol o ffynonellau eraill.

Prif elfennau'r contract yw:

  • bydd y contract rhwng Canolbwynt y Cyngor a NEAT;
  • bydd yn dechrau pan gwblheir yr holl ddogfennau masnachol ac ariannol, y disgwylir fydd cyn diwedd 2011;
  • mae'r contract am gyfnod o 15 mlynedd gydag opsiwn i ymestyn am 5 mlynedd pellach;
  • mae'r contract yn gwarantu cyflenwad o wastraff bwyd i'r safle ar gyfer tua 60% o'i gapasiti.

Bydd y safle  yn un treulio anaerobig yn prosesu gwastraff bwyd i gynhyrchu trydan a chynnyrch treuliad, i'w ddefnyddio fel gwrtaith amaethyddol. Disgwylir y bydd refeniw blwyddyn lawn i NEAT tua £2m a disgwylir i'r safle gynhyrchu tua 1MW o bwer adnewyddadwy, fydd yn ddigonol i ddiwallu anghenion tua 2,000 o gartrefi yng Ngogledd Ddwyrain Cymru bob blwyddyn. Mae'r math yma o weithrediad yn ddatrysiad cydnabyddedig i amcanion a nododd Llywodraeth y Deyrnas Unedig wrth gydymffurfio gyda thargedau tomennydd llanw'r Undeb Ewropeaidd a hefyd ddigarboneiddio marchnad drydan y DU. Bydd y trydan a gynhyrchir yn manteisio o brisiau gwerthu premiwm drwy'r tariffau Cynllun Cyflenwi.

Caiff y safle treulio anaerobig ei ariannu a'i weithredu gan NEAT. Disgwylir y defnyddir cyllid asedau i gyllido cyfalaf y safle a bydd TEG ac Alkane yn darparu cyfalaf gwaith yn gymesur ag ecwiti'r ddau yn NEAT. Disgwylir y caiff y cais cynllunio a'r cais am ganiatad amgylcheddol eu cyflwyno yn y dyfodol agos. Rhagwelir y bydd y safle treulio anaerobig yn dechrau gweithredu yn hanner cyntaf 2013.

Bydd TEG yn cyflenwi ac yn gweithredu offer a chyfarpar allweddol treulio anaerobig a'r pecyn peirianneg sifil ar gyfer y safle. Bydd Alkane yn cyflenwi ac yn gweithredu'r holl offer rheoli nwy, gwres a phwer cyfun a chynhyrchu pwer. Bydd NOCFO Cyf., sy'n is-gwmni i TEG, yn rheoli dosbarthu'r gweddillion treuliad anaerobig dan gontract ar wahan ar gyfer rheoli/r gweddillion treuliad anaerobig.

Dywedodd Mick Fishwick, Prif Weithredwr TEG: "Rydym yn falch iawn i fod wedi ennill y contract hirdymor pwysig yma gan Ganolbwynt Gogledd Ddwyrain Cymru ac edrychwn ymlaen at weithio gyda'r Canolbwynt ac adeiladu ein safle treulio anaerobig cyntaf yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Mae'n hefyd yn dda iawn gweld ein partneriaeth gyda Alkane yn datblygu ymhellach ac edrychwn ymlaen at weithio gyda Alkane yn ein cwmni menter ar y cyd newydd."

Yn siarad ar ran Alkane, dywedodd y Prif Weithredwr Neil O'Brien: "Rydym yn hynod falch i fod yn Gynigydd a Ffafrir ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru. Mae'r symud yma i faes treulio anerobig yn ehangu gweithrediadau busnes Alkane ymhellach ac yn cryfhau ein henw da ym maes technoleg lan. Mae'r cydweithredu rhwng Alkane/TEG yn profi ei werth gan gyfuno ein treftadaeth mewn rheoli gwastraff a chynhyrchu ynni. Mae cyfatebiaeth gref o sgiliau yn y ddau dim ac rydym yn parhau i weithio ar nifer o brosiectau eraill treulio anaerobig."

DIWEDD

Cyswllt:
Grwp TEG Ccc Ffon: 01772 644980
Michael Fishwick, Prif Weithredwr

Peckwater PR Ffon: 07879 458 364

Ambrian Partners Cyfngedig (NOMAD a Brocer) Ffon : 020 7634 4705               
Andrew Craig / Ben Wright


Nodiadau i'r Golygydd: 


TEG

Mae TEG yn darparu technoleg arloesol ar gyfer trin gwastraff organig. Mae ei systemau compostio mewn cynhwysydd (IVC) yn un o'r ychydig dechnolegau cymeradwy a all drin gwastraff sgil-gynnyrch anifeiliaid, ac mae'n awr yn darparu technoleg treulio anaerobig i gynhyrchu pwer o wastraff bwyd. Caiff economeg safle eu gyrru'n bennaf gan ffioedd clwyd yn hytrach na gwerth y cynnyrch gorffenedig (compost). Mae safleoedd treulio anaerobig hefyd yn manteisio o werthiant pwer a Thystysgrifau Oblygiadau Adnewyddadwy neu Dariffau Cyflenwi Trydan. TEG sy'n berchen ei dechnoleg compostio, System Cawell Seilo TEG, ac mae ganddo gytundeb gyda UTS Biogastechnik GmbH ("UTS") ar gyfer darparu technoleg treulio anaerobig i farchnadoedd gwastraff y Deyrnas Unedig. Mae prosesau TEG yn ddewis amgen economaidd a chynaliadwy yn hytrach na defnyddio tomennydd llanw.

System Cawell Seilo TEG

Mae'r system Cawell Seilo, un o'r ychydig dechnolegau yn Ewrop a all drin y gwastraff yma, yn broses naturiol sy'n cynhyrchu compost fel cynnyrch terfynol. Mae'r compost yn ardderchog ar gyfer trin tir gan wrteithio, cadw gwlybaniaeth, rhoi strwythur a gostwng amlder clefyd planhigion. Mae Cewyll Seilo TEG wedi'u dodi mewn adeiladau hunangynwysedig, yn addas ar gyfer amgylcheddau trefol, heb fod yn ddiolwg ac maent yn gyfeillgar i'r amgylchedd.

Cydweithio gyda UTS

Mae UTS Biogastechnik GmbH yn un o gwmniau nwy bio amlycaf y byd gan gynnig gwasanaethau mewn cynllunio, adeiladu, cyflenwi a gosod safleoedd nwy bio a'u cydrannau allweddol. Mae gan y cwmni ei gyfleusterau cynhyrchu ei hunan ynghyd a siopau gwasanaeth, adrannau dylunio a datblygu technegol yn ogystal a thechnegwyr mecanyddol symudol a biolegol i gefnogi eu cleientiaid rhyngwladol. Mae UTS hefyd yn datblygu ac yn gwerthu cymysgwyr arbenigol, pympiau a math o ddyfeisiau gwahanu solid/hylif yn gysylltiedig a'r marchnadoedd nwy bio a bwyd-amaeth. Mae pencadlys y cwmni ger Munich, yr Almaen gydag is-gwmniau yn yr Eidal, Hwngari, Sbaen, Gweriniaeth Siec ac yn awr gwmni sy'n datblygu'n gyflym UTS Biogas Cyfyngedig, i wasanaethu marchnadoedd y Deyrnas Unedig ac Iwerddon.

TEG Biogas (Perth)  Cyfyngedig

Mae TEG Biogas (Perth) Cyfyngedig ("TEG Biogas") yn gwmni menter ar y cyd a sefydlwyd gan TEG gyda Albion LLP. Mae TEG Biogas yn adeiladu safle treulio anaerobig a all drin 16,000 tunnell y flwyddyn ar safle TEG yn Glenfarg i gynhyrchu 0.7MW o bwer trydanol a 0.2MW o wres a ddefnyddir gan Binn Eco Park. Caiff y safle ei gwblhau yn 2011.

Cyffredinol

Mae cwsmeriaid yn cynnwys awdurdodau lleol, cwmniau rheoli gwastraff, proseswyr bwyd, ffermwyr a pherchnogion tir. Caiff marchnad gynyddol y Cwmni ei hybu gan ddeddfwriaeth cynyddol lym yr UE a'r DU yn ymwneud a thrin a gwaredu a gwastraff organig. Mae targedau statudol ar gyfer dargyfeirio gwastraff o domennydd llanw yn cynyddu'n flynyddol hyd at 2020, gan gynyddu cyfle marchnad TEG flwyddyn ar flwyddyn.

NOFCO

Mae Natural Organic Fertiliser Company Cyfyngedig ("NOFCO"), is-gwmni TEG, yn gwmni marchnata sy'n arbenigo mewn datblygu marchnadoedd ar gyfer cynnyrch compost, agwedd bwysig o bob datblygiad safle ac yn allweddol i ddatblygiad awdurdodau lleol. Mae'r cwmni'n arbenigo mewn datblygu marchnadoedd amaethyddol a garddwriaethol a darperir y gallu hwn i gwsmeriaid i hybu cynnig gwasanaeth TEG.

Alkane

Mae Alkane yn fusnes 'technoleg lan' proffidiol, yn cynhyrchu arian ac yn tyfu sy'n gweithredu o 12 safle pwer o amgylch y Deyrnas Unedig gyda phresenoldeb cynyddol mewn nwy bio adnewyddadwy a rheoli galw.

Mae gan y Cwmni bortffolio blaenllaw'r Deyrnas Unedig o drwyddedau methan pyllau glo 
("CMM"), sy'n galluogi'r Cwmni i alldynnu nwy o hen byllau glo. Dechreuodd Alkane alldynnu CMM yn 1999 gyda safleoedd yn  Shirebrook, Steetley a Markham.  Mae Shirebrook a Markham yn dal i weithredu heddiw, ddegawd ar ol eu hagor. Mae Shirebrook yn dal i gynhyrchu CMM a chafodd capasiti dros ben ei ddefnyddio ar gyfer llwyth brig confensiynol gyda chapasiti yn Markham.

Mae'r Grwp yn awr yn cynhyrchu pwer o 12 o safleoedd maint canolig (llai na 10MW) ar draws y Deyrnas Unedig ac yn gwerthu'r pwer drwy'r rhwydwaith dosbarthu trydan. Caiff y trydan ei gynhyrchu yn defnyddio peiriannau ar yn ail modiwlar safonol, a chynlluniwyd yr unedau hyn a chyfarpar ategol i fod yn hyblyg a chludadwy. Mae hyn yn ei gwneud yn bosibl i ddod a chapasiti ychwanegol i safleoedd newydd i gynyddu effeithiolrwydd.

Cafodd model gweithredu Alkane eisoes ei drosglwyddo i reoli gwastraff ac mae ar hyn o bryd yn gweithredu 8MW ar draws dau safle ar nwy confensiynol gyda'u partneriaid masnachu GDF SUEZ Energy UK. Mae rheolaeth galw yn cynnwys rhedeg brig (fel arfer 16.00 i 19.00 bob diwrnod wythnos) a Chronfa Wth Gefn Gweithredu Tymor Byr ("STOR") lle mae National Grid yn contractio cyfleusterau wrth gefn gyda chynhyrchwyr.

Mae'r farchnad nwy bio hefyd yn rhoi ffrwd busnes newydd posibl fydd angen yr un asedau pwer a sgiliau nwy a thrydan creiddiol a CMM. Mae gan Alkane gytundeb cydweithio gyda Grwp TEG CCC ("TEG") i adeiladu a gweithredu safleoedd treulio anerobig. Mae treulio anaerobig yn broses fiolegol gymhleth sy'n trosi deunydd gwastraff neu gnydau ynni yn fethan a gwrtaith.

Mae sefyllfa trwydded ar y tir Alkane yn cynnwys methan gwely glo a photensial nwy sial. Mae'r rhain yn gyfleoedd tymor hwy ac mae ganddynt risg ymchwilio. Mae'r Cwmni yn edrych am bartner i allu'r cam ymchwilio ar eu risg eu hunain.

« Back

Latest News

Headlines

  • Statement regarding share price movement: more »
  • TEG ac Alkane yn Gynigydd a Ffafrir safle cyntaf rhaglen Llywodraeth Cymru ar gyfer treulio anaerobig ar wastraff bwyd:  31 Awst 2010 more »
Latest Share Price
Share Price Graph